Gweithiodd yr ŵyl gyda'i phartneriaid Sight Life yn 2019 er mwyn cynhyrchu digwyddiad ar gyfer pobl â cholled golwg yn Ne Cymru. Fe greuwyd ddigwyddiad yn seiliedig ar ddysgu seryddiaeth, fel arfer yn bwnc gweledol, i bobl â cholled golwg. Gan ddefnyddio deunyddiau cyffyrddol a sain, roedd yn bosib i'r cyfranogwyr teimlo a chlywed y bydysawd.