Gwyddoniaeth i bawb
Pob blwyddyn, mae Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn cynnig profiadau gwyddonol i filoedd o bobl. Yn deuluoedd neu gyda ffrindiau, bydd cyfleoedd i chi ddysgu pethau newydd oddi wrth gyflwynwyr ac ymchwilwyr arloesol Cymru.
Cryfder Gwirfoddolwyr
Doedd dim gŵyl wyddoniaeth yng Nghaerdydd am flynyddoedd. Penderfynodd grŵp o wirfoddolwyr ymroddgar creu gŵyl, ar ei newydd wedd, ym mhrifddinas Cymru. Yn ystod gwyliau hanner-tymor y gwanwyn 2019, roedd digwyddiadau STEM i'w gweld ar hyd a lled y ddinas. Yn dod â gwyddoniaeth i Gaerdydd gan roi rhywbeth newydd, ym mannau newydd gan bobl newydd. Tyfodd yr ŵyl, gyda mwy na 10,000 yn bresennol yn y 34 digwyddiad ar draws y ddinas. Roedd yr ŵyl yn llwyddiant ysgubol ac yn dangos y chwant a'r eisiau ar gyfer gŵyl flynyddol yn gyson yng Nghaerdydd, yn debyg i ddinasoedd eraill Prydain. Ein hysbrydoliaeth ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn 2019 oedd y syniad o "guerilla festivals", gan gynhyrchu amrywiaeth o ddigwyddiadau gwyddonol ar hyd y ddinas gyda gwyddoniaeth annisgwyliedig mewn mannau annisgwyliedig.
Daeth yr ŵyl â nifer o wyddonwyr a chyfathrebwyr gwyddonol arbennig o Gymru ynghyd i rannu eu hysbrydoliaeth; mewn tafarndai, caffis, parciau a chanolfannau siopa'r ddinas, roedd wastad pethau newydd i'w darganfod. Fel blwyddyn gyntaf atgyfodiad, roedd llwyddiant yr ŵyl yn wych. Trwy nerth y gwirfoddolwyr ac angerdd y cyfathrebwyr gwyddonol, paentiwyd y ddinas yn oren gyda llwythi o ddigwyddiadau diddorol, addysgol ac ysbrydoledig STEM.
Hanes Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd
Roedd Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd wedi amlygu ei hun ddwywaith yn y gorffennol, â'r tro diwethaf yn 2014. Ail-sefydlwyd yr ŵyl yn 2018 gan nifer o gyfathrebwyr gwyddoniaeth frwdfrydig yn ogystal â phobl oedd wedi trefni'r gwyliau blaenorol. Bu'r pwyllgor yn cwrdd yn Nhachwedd 2018, gyda'r bwriad o drefnu gŵyl o fewn 4 mis. Eu hamcan oedd ail-gydio yn y cyffro o'r gwyliau blaenorol gan hefyd newid a gwella'r canlyniadau.