Cynnal digwyddiad
Cynhelir digwyddiadau Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd gan Bartneriaid Digwyddiadau'r Ŵyl - pobl neu fudiadau sydd yn awyddus cynnal digwyddiadau, gyda chefnogaeth y tîm Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd. Mae croeso i bawb cynnal digwyddiad, os oes gennych syniad diddorol ar gyfer digwyddiad gwyddonol yng Ngŵyl Wyddoniaeth Caerdydd 2021, cysylltwch â ni.
Rhywbeth Newydd, Rhywle Newydd, Rhywun Newydd.
Fel gŵyl, rydyn ni eisiau arddangos digwyddiadau ac arddangosion arloesol. Mae diddordeb gennym glywed syniadau a digwyddiadau mewn ardaloedd gwahanol ac unigryw o gwmpas y ddinas - wrth arddangos gwyddoniaeth mewn siopau, caffis a lleoliadau dirgel o gwmpas Caerdydd. Yn ogystal ag arddangos gwyddoniaeth mewn mannau newydd, rydyn ni eisiau denu pobl newydd.
Rydyn ni'n gobeithio i'n digwyddiadau cyrraedd pobl sydd ddim fel arfer yn ymrwymo'u hunain mewn digwyddiadau STEM er mwyn galluogi a hybu mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwyddoniaeth. Os oes diddordeb gennych chi gynnal digwyddiadau yng Ngŵyl Wyddoniaeth Caerdydd 2021, cysylltwch â ni.
Dechreuwch wrth ddarllen y Cyfarwyddiadau i Bartneriaid Digwyddiadau er mwyn sicrhau eich bod yn gyfun ag amcanion yr ŵyl ac i ateb cwestiynau posib, wedyn llenwch y ffurflen isod.