Gwirfoddol
Mae Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn dibynnu ar wirfoddolwyr penigamp i gynnal ein digwyddiadau. Efallai trwy siarad mewn digwyddiadau cyhoeddus, cynnal arddangosiadau, cefnogi digwyddiadau, bysgio gwyddonol ac amryw o ffyrdd eraill i gefnogi'r ŵyl. Rydyn ni'n awyddus i sicrhau bod ein gwirfoddolwyr yn gyfforddus yn eu gweithgareddau, felly byddwn yn sicrhau pennu gwirfoddolwyr yn eu tasgau dewisach.
Mae gwirfoddoli ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn darparu'r cyfle i ennill profiad o gyfathrebu â'r cyhoedd am wyddoniaeth, cefnogi amcanion yr ŵyl a sicrhau trawiad positif y digwyddiadau ar y ddinas. I gydnabod cefnogaeth hael ein gwirfoddolwyr, bydd Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn talu cost pryd o fwyd ar gyfer gwirfoddolwyr sy'n cefnogi'r ŵyl neu'n bysgio.
Os hoffech wirfoddoli yn ystod gŵyl 2021, gallwch lenwi'r ffurflen trwy glicio yma.
“Roedd gan Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd awyrgylch cyffrous iawn, yn uno angerdd y gwyddonwyr â'r gymuned. Arsylwais i ddigwyddiad a dysgais rywbeth newydd - profiad positif iawn.”
— Eleanor Watson