Ym mis Mawrth 2019, fe wnaeth Cyngor Caerdydd ymuno â chynghorau eraill ar draws y DU wrth ddatgan ‘argyfwng hinsawdd’. Yn Hydref 2020, lansiodd Cyngor Caerdydd ei strategaeth ddrafft Caerdydd Un Blaned gan osod gweledigaeth ar gyfer dod yn ddinas niwtral o ran carbon erbyn 2030; ymateb strategol i’r argyfwng yn yr hinsawdd.
Bydd y sgwrs hon yn rhoi trosolwg o’r strategaeth Caerdydd Un Blaned ar gyfer plant a phobl ifanc a bydd hefyd yn cynnig cyfle i’r rhai sy’n bresennol ddweud eu barn ar ba newidiadau y dylid eu gwneud er mwyn lleihau ôl-troed carbon y ddinas.
Bydd y digwyddiad byr yn cael ei gynnal gan dîm Ynni a Chynaliadwyedd Cyngor Caerdydd, ar y cyd ag aelodau o Gyngor Ieuenctid Caerdydd.
https://www.eventbrite.co.uk/e/caerdydd-un-blaned-a-safbwyntiau-pobl-ifanc-tickets-142085592833