Syrcas Isatomig

18th Awst 2021 - Parc Cathays

Dewch i fwynhau gweithgareddau gwyddoniaeth sy’n addas i’r teulu ac adloniant stryd o amgylch Parc Cathays, am un diwrnod yn unig. Nid yw pethau ar raddfa isatomig yn ymddwyn fel y byddech chi'n ei ddisgwyl. Maent yn ymddangos ac yn diflannu fel electronau. Efallai y byddwch yn gweld rhai gwyddonwyr a pheirianwyr lleol, criw o bobl yn dawnsio â chylchau hwla neu’n cymryd rhan mewn astudiaeth maes fyrfyfyr. Disgwyliwch yr annisgwyl wrth i chi grwydro a mwynhau’r rhyngweithio sy’n ehangu meddwl a chael hwyl gyda’r teulu.

Rhaid cadw lle. Gan y bydd yr holl weithgareddau’n cael eu cynnal yn yr awyr agored, gwisgwch ddillad ar gyfer cerdded ac sy’n addas i’r tywydd. Mae llwybrau addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio ar gael. Bydd y rheolau COVID-19 sy’n berthnasol ar adeg y digwyddiad yn cael eu dilyn, a disgwylir i chi eu parchu, er diogelwch pawb. Pe bai COVID-19 neu unrhyw beth arall yn effeithio ar y digwyddiad neu’n golygu bod angen ei ganslo, rhoddir gwybod i’r rhai sydd wedi cadw lle cyn gynted â phosibl. Ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw effaith sy’n dilyn canslo neu addasu'r digwyddiad.

Mae'r digwyddiad yn addas i blant 7-11 oed, ond bydd gweithgareddau hefyd ar gyfer plant o bob oed.

Mae tri slot amser. Gan y bydd yr un gweithgareddau’n cael eu cynnal yn ystod pob slot amser, dim ond un ohonynt y dylech ei ddewis. Anfonir manylion eich man cychwyn atoch wythnos cyn y digwyddiad. A fyddech cystal â mynd i’ch man cychwyn ym Mharc Cathays ar ddechrau eich slot amser. Bydd map sy’n dangos lleoliadau’r gweithgareddau ar gael ar ein gwefan, a bydd yn cael ei ebostio atoch cyn y digwyddiad i'ch helpu i fynd o le i le.

Cefnogir y digwyddiad hwn gan Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd.