Explore Science at Cardiff Castle – A Family-Friendly Adventure!
Register for free tickets here!
Cardiff Science Festival is back, bringing exciting, hands-on activities to spark curiosity and inspire all ages! Taking place in venues across the city, the festival is run by passionate volunteers who believe science should be fun, engaging, and accessible to everyone. Join us on Friday, 28th February at Cardiff Castle for a FREE interactive event packed with discovery, creativity, and learning.
One of the highlights of the day is Polar Animal Adaptations, hosted by the UK Polar Network. Ever wondered how animals survive in the freezing Arctic and Antarctic? Discover the weird and wonderful ways polar creatures stay warm, then get creative with our crafting materials to design your very own polar organism! This hands-on session is perfect for young children aged 3 and up and their families.
For older visitors, take on the challenge of becoming a Circular Citizen with the Circular Families Game! Designed for teenagers (13-19 years) and adults, this engaging card game introduces you to the world of circular economies. You’ll explore how different industries—from transport to food—can reduce waste and regenerate nature. Can you make the right choices to form a fully circular family and close the loop? Facilitated by Dr Marianna Marchesi from Cardiff University, this interactive game will get you thinking about sustainability in a whole new way.
Don’t miss out on this fantastic opportunity to explore science in a historic setting! Secure your tickets now and join us for a day of discovery, learning, and fun at Cardiff Castle.
Archwiliwch Wyddoniaeth yng Nghastell Caerdydd – Antur i’r Teulu i Gyd!
Mae Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn ôl, gan ddod ag amrywiaeth o weithgareddau ymarferol cyffrous i danio chwilfrydedd ac ysbrydoli pob oed! Yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ledled y ddinas, mae’r ŵyl yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr brwdfrydig sy’n credu bod gwyddoniaeth yn haeddu bod yn hwyl, yn ymgysylltiol ac yn agored i bawb. Ymunwch â ni ar Ddydd Gwener, 28ain Chwefror yng Nghastell Caerdydd am ddigwyddiad AM DDIM llawn darganfyddiadau, creadigrwydd a dysgu.
Un o uchafbwyntiau’r dydd yw Addasiadau Anifeiliaid Pegynol, a gynhelir gan Rhwydwaith Pegynol y DU. Wedi meddwl sut mae anifeiliaid yn goroesi yn yr Arctig a’r Antarctig oer? Dewch i ddarganfod y dulliau rhyfeddol a rhyfedd maent yn eu defnyddio i gadw’n gynnes, yna defnyddiwch ein deunyddiau crefft i greu eich organedd pegynol eich hun! Mae’r sesiwn ymarferol hon yn berffaith ar gyfer plant ifanc 3 oed a hŷn a’u teuluoedd.
I’r ymwelwyr hŷn, cymerwch ran yn Gêm Teuluoedd Cylchol a datgelwch eich hunaniaeth fel Dinesydd Cylchol! Wedi’i dylunio ar gyfer pobl ifanc (13-19 oed) ac oedolion, mae’r gêm gardiau ryngweithiol hon yn eich cyflwyno i fyd economïau cylchol. Byddwch yn archwilio sut y gall diwydiannau – o drafnidiaeth i fwyd – leihau gwastraff ac adfywio natur. Allwch chi wneud y penderfyniadau cywir i ffurfio teulu cylchol llawn a chau’r cylch? Wedi’i hwyluso gan Dr Marianna Marchesi o Brifysgol Caerdydd, mae’r gêm hon yn ffordd ddifyr i ddysgu am gynaliadwyedd mewn ffordd newydd sbon.
Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn i archwilio gwyddoniaeth mewn lleoliad hanesyddol! Sicrhewch eich tocynnau nawr ac ymunwch â ni am ddiwrnod o ddarganfod, dysgu a hwyl yng Nghastell Caerdydd.